Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Ymchwiliad i Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol – Tystiolaeth gan Llafur Cymru

 

Ymagwedd Llafur Cymru

 

1.    Mae Llafur Cymru yn croesawu’r cyfle i gyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad. Mae gwerthoedd y Blaid yn seiliedig ar ymrwymiad i gymdeithas decach a democratiaeth fwy agored ac, o’r herwydd, mae anelu at wella amrywiaeth ym maes llywodraeth leol yn rhan hanfodol o’n gwaith. Etholwyd cyfanswm o 472 o gynghorwyr Llafur yng Nghymru yn y rownd ddiweddaraf o etholiadau lleol yn 2017, ac, er ein bod wedi gwneud llawer i wella amrywiaeth ymhlith ein cynghorwyr, sylweddolwn fod llawer mwy i’w wneud.

 

2.    Gyda’r rownd nesaf o etholiadau lleol Cymru yn cael eu cynnal yn 2022, mae’n gyfnod hollbwysig o ran gallu dylanwadu’n gadarnhaol ar y prosesau dethol er mwyn denu cynrychiolwyr mwy amrywiol. I’r perwyl hwn, rydym eisoes wedi rhoi nifer o strategaethau ar waith i’n cynorthwyo i gyrraedd y nod hwn.

3.    Yn etholiadau lleol 2017, canfu gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru mai dim ond 33 y cant o’r holl gynghorwyr a oedd yn fenywod.[1] Ymhlith y pleidiau gwleidyddol, Llafur Cymru oedd y mwyaf cynrychioliadol o bell ffordd, gyda 39 y cant o gynghorwyr etholedig yn fenywod.[2] Er ein bod yn croesawu’r cynnydd hwn, sylweddolwn nad yw’r gyfran yn ddigon uchel eto, a bod mwy i’w wneud i sicrhau cydraddoldeb man lleiaf.

4.    Mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i gymryd mwy o gamau cadarnhaol i annog a galluogi mwy o bobl â nodweddion gwarchodedig i sefyll mewn etholiadau a sicrhau mwy o amrywiaeth ym maes llywodraeth leol. Yn aml, mae’r ymgyrchoedd i recriwtio cynghorwyr mwy amrywiol wedi canolbwyntio ar annog mwy o fenywod i sefyll, ac mae’r gwaith hwn yn parhau i fod yn hanfodol. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn bod nifer o grwpiau eraill yn cael eu tangynrychioli mewn llywodraeth leol.  Mae angen mwy o gynghorwyr o blith pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol+ a phobl anabl, yn ogystal â chynghorwyr iau a mwy o gynghorwyr o gefndiroedd dosbarth gweithiol. Dylai’r holl randdeiliaid mewn llywodraeth leol ymdrechu i rymuso a galluogi pobl o’r cefndiroedd hyn i sefyll fel ymgeiswyr.  

 

5.    Mae Llafur Cymru yn cydnabod bod cynyddu amrywiaeth ymhlith yr ymgeiswyr a’r cynghorwyr yn rhan o broses hwy o wella amrywiaeth ei aelodau a’i ymgyrchwyr. Bydd y twf cyflym diweddar yn aelodaeth y Blaid Llafur yn cynorthwyo yn hyn o beth, ac rydym yn gwneud ymdrechion penodol yn lleol ac yn genedlaethol i groesawu a chynnwys aelodau newydd. Drwy Adolygiad o Ddemocratiaeth Llafur Cymru, mae’r blaid wrthi’n adolygu ei holl ddulliau gwaith i sicrhau eu bod yn cynorthwyo ac yn annog ymgysylltu ag ystod eang o aelodau. Anogir y pleidiau lleol i benodi amrywiaeth o swyddogion cydraddoldeb yn ogystal â’r rôl hirsefydlog Swyddogion Menywod a Phobl Ifanc a gall y rhain gynnwys Pobl Dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol+ a phobl anabl a swyddogion eraill. Yn yr un modd, mae llawer yn creu pwyllgorau a grwpiau anffurfiol, ochr yn ochr â’r grwpiau Fforymau Menywod a Llafur Ifanc sydd eisoes yn bodoli, sy’n dod ag aelodau â nodweddion gwarchodedig at ei gilydd.  

6.    Rydym hefyd yn cydnabod bod llawer o fathau eraill o wasanaethau cyhoeddus sy’n werthfawr ynddynt eu hunain, ac yn gallu gweithredu fel cerrig camu tuag at sefyll yn etholiadau cynghorau mawr, y Senedd neu’r Cynulliad.  Dros y rhan fwyaf o Gymru, mae ymgeiswyr Llafur Cymru yn sefyll etholiadau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref, ac rydym yn annog y pleidiau lleol i sicrhau bod ystod eang o’u haelodau yn ymgeisio ar gyfer y rhain. Mae’r blaid yn rhoi pwyslais o’r newydd ar drefnu cymunedol a bydd hyn yn rhoi profiad gwerthfawr i aelodau o gynrychioli eraill yn ogystal â chyflwyno ystod ehangach o bobl i weithgareddau’r blaid. Rydym yn annog aelodau i ystyried bod yn llywodraethwyr ysgol ac i chwarae rhan lawn mewn nifer o sefydliadau cymunedol a gwirfoddol. Rydym yn falch o’n perthynas hirsefydlog â’r undebau llafur sydd, yn draddodiadol, wedi bod yn ddechrau’r daith tuag at swyddi cyhoeddus i lawer o’n haelodau, fel sy’n digwydd hyd heddiw.  

 

7.    Yn ddiweddar, lansiodd Llafur Cymru’r Rhaglen Ymgeiswyr y Dyfodol, ein prif gynllun ar gyfer annog carfan fwy amrywiol o ymgeiswyr i sefyll mewn etholiadau yn y dyfodol, boed yn etholiadau’r Cynulliad, y Senedd neu Lywodraeth Leol. Mae’r rhaglen – sydd bellach yn mynd rhagddi – ar agor i bob aelod a lwyddodd i sicrhau lle, ond yn canolbwyntio ar annog menywod a Phobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i sefyll mewn etholiadau. Ar y cyd â Phwyllgor Menywod Llafur Cymru, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau bach ledled Cymru er mwyn i fenywod annog aelodau benywaidd i ystyried sefyll mewn etholiadau yn y dyfodol - gan gynnwys llywodraeth leol. Yn yr un modd, cynhaliwyd digwyddiad blasu penodol ar gyfer aelodau o’r grŵp Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

8.    Mae Fforymau Ymgyrchoedd Lleol, y cyrff sy’n cydlynu ein gwaith ym mhob ardal llywodraeth leol, yn cael eu hannog i adeiladu ar yr arferion gorau wrth i ni edrych ymlaen at y rownd nesaf o ddetholiadau ac etholiadau llywodraeth leol. Yn arbennig, gofynnir iddynt drefnu digwyddiadau blasu mwy anffurfiol, digwyddiadau hyfforddiant a chynlluniau mentora ac i gydnabod anghenion y grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gwaith cyffredinol ac ar yr un pryd yn creu cyfleoedd penodol, wedi’u targedu ar eu cyfer.  Mae Is-bwyllgor Llywodraeth Leol Pwyllgor Gweithredol Cymru wrthi’n adolygu’r gwaith hwn, a’r cymorth y gellir ei gynnig i’r Fforymau Ymgyrchoedd Lleol ei gyflawni. Ochr yn ochr â hyn, bwriadwn adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol ar ddefnyddio cwotâu menywod mewn seddi y mae modd eu hennill.

 

9.    Yn ogystal, cyn bo hir mae Llafur Cymru yn bwriadu lansio rhwydwaith cynghorwyr ifanc Llafur Cymru ar gyfer cynghorwyr, i alluogi ein cynghorwyr iau i ddatblygu rhwydwaith o gydweithwyr cefnogol ar draws y grwpiau Llafur yng Nghymru.

 

Y cyd-destun ehangach

 

10. Nid yw’r cynghorau lle mae grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn gallu llwyr adlewyrchu na chyflawni ar gyfer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Byddai hyn wastad yn broblem, ond mae’n fwy arwyddocaol mewn cyfnod o gyni, gyda chynghorau heb amrywiaeth ymysg eu haelodau yn gwneud penderfyniadau anodd am flaenoriaethau o ran darparu gwasanaethau heb gyfraniad llawn gan lawer yn y gymuned.

11. Er gwaethaf rhai llwyddiannau ar lefel leol, sy’n adlewyrchu gwaith caled ystod o sefydliadau, mae’r cynnydd o ran ethol cynghorau mwy amrywiol yn yr ystyr ehangach fodd bynnag wedi bod yn fach ac yn rhy raddol o lawer. Mae’n rhaid cyflymu’r gwaith graddol er mwyn creu newid hirdymor diwylliannol a strwythurol.

 

12. Mae cyngor sy’n cynnwys carfan o gynghorwyr amrywiol ac adlewyrchol mewn sefyllfa well i adlewyrchu ac ymgysylltu â’i gymuned, gan greu mwy o ymddiriedaeth a hyder, ac arwain at well llywodraeth yn y cymunedau lleol.  Yn gryno: mae mwy o amrywiaeth yn arwain at benderfyniadau gwell. At hynny, mae carfan fwy cynrychioliadol o gynghorwyr yn golygu bod unigolion yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli ar eu cyngor. Bydd hyn, yn ei dro, yn ysbrydoli ymgeiswyr y dyfodol i sefyll.

 

13. Er bod gwasanaethu fel cynghorydd yn rhoi boddhad i rywun, mae hefyd yn rôl drom a heriol sy’n gallu amharu ar fywyd teuluol a chydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae’r cyfyngiadau ar amser ac arian a diffyg hyblygrwydd yn gallu bod yn rhwystrau rhag sicrhau llywodraeth leol gynhwysol. Mae’n bwysig parhau i adolygu’r taliadau cydnabyddiaeth i gynghorwyr i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu fforddio ymgymryd â’r rôl. Dylai cynghorau hefyd edrych am ffyrdd o wella’r ddarpariaeth gofal plant fel nad yw’r rhai sydd â phlant ifanc yn cael eu hatal rhag dod yn gynghorwyr.

 

14. Mae llawer o ddarpar gynghorwyr o oedran gweithio yn poeni y gallai ymgymryd â’r rôl effeithio ar sicrwydd swydd a’r cyfleoedd i gael dyrchafiad yn y dyfodol. Mae’n rhaid gwneud ymdrech fawr i annog cyflogwyr i weld bod dal swydd etholedig yn gyfle i gyflogai fagu profiad gwerthfawr o ran dadansoddi problemau cymhleth, cyfrannu at benderfyniadau cyllidebol pwysig, rhyngweithio ag ystod eang o bobl a darparu sgiliau arweinyddiaeth. Dylid annog cyflogwyr i edrych ar swydd cynghorydd fel rhywbeth cadarnhaol i’r cyflogai yn hytrach na rhywbeth negyddol – yn yr un modd ag y mae llawer yn annog cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Fyddin Diriogaethol a sefydliadau elusennol.  

 

15. Nid yw’r rhwystrau yn dechrau a gorffen gyda detholiad ac etholiad. Mae cadw cynghorwyr o’r grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn gallu bod yn broblem, oherwydd ar ôl iddynt gael eu hethol, gallant ei chael hi’n anodd datblygu’r rhwydwaith o gefnogaeth angenrheidiol er mwyn ffynnu mewn amgylchedd sy’n gallu bod yn ynysig. Mae’r grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hefyd yn fwy tebygol o wynebu gwahaniaethu tra byddant yn y swydd: canfu ymchwil gan Gymdeithas Fawcett fod 50 y cant o’r cynghorwyr benywaidd o blith Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a 41 y cant o’r cynghorwyr gwrywaidd o blith Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi cael y profiad o wahaniaethu tra roeddent yn y swydd.[3]

 

 



[1] Local Government Candidates Survey https://gov.wales/docs/caecd/research/2018/180502-local-government-candidates-survey-2017-en.pdf (Caerdydd: Llywodraeth Cymru, 2017), t.12.

[2] Ibid, t.13.

[3] Does Local Government Work for Women? https://www.lgiu.org.uk/wp-content/uploads/2017/04/Does-Local-Government-Work-for-Women-Interim-Report-April-2017-Fawcett-Society.pdf, (Cymdeithas Fawcett, 2017) t.7.